Mabon

My blogs

About me

Introduction Ymgyrch Mis Hydref yw Deddf Iaith Newydd. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn - ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd i Gymru - galw am ddeddf bydd yn ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern - sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd. Nid yw Deddf Iaith 1993 yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg, yn sicrhau gwasaneth Cymraeg gan y sector breifat nac yn sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol. Mae angen Ddeddf Iaith Newydd! Danfon ebost yn galw am Ddeddf Iaith Newydd at Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant) a Meirion Prys Jones (Bwrdd yr Iaith). Ysgrifenna at gwmni neu sefydliad preifat sy’n methu darparu gwasanaeth Cymraeg. Cynnig helpu gyda’r ymgyrch. Am ragor o wybodaeth cysyllta â Rhys Llwyd (Cadeirydd Grwp Ymgyrch Deddf Iaith Newydd).